Trefniadau'r Wythnos:
16th March 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Byddwn yn edrych ar frawddegau negyddol e.e.
Dydw i ddim ....
Does dim .... gyda fi.
Does dim .... ganddo ef / ganddi hi.
Band yr wythnos:
Elin Fflur - Harbwr Diogel ac Ar lan y môr.
Dydd Llun:
Gwasanaeth NSPCC.
Byddwn yn cyflwyno ein siec o'r holl weithgareddau nawr i'r NSPCC bore 'ma.
Gwersi Addysg Gorfforol Superstars ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 heddiw.
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6) £1
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
(09:10 yn neuadd yr ysgol.)
Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 o 3:30 - 4:30.
Ymarfer côr o 3:30 - 4:30.
Cystadleuaeth pel-droed i ferched blynyddoedd 5 a 6. 09:30 - 1:30.
Mae'r rheiny sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr. Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion os gwelwch yn dda.
Dydd Mercher:
Ymarfer côr ReConnect. Bydd y disgyblion yn mynd i ymarfer yn Ysgol West Mon rhwng 9:30 ac 11:20. Gwisg ysgol os gwelwch yn dda.
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30. (£1)
*Dim ymarfer ymgom ar ôl ysgol. *
Cystadleuaeth Hoci yn Stadiwm Cwmbrân. (3-5)
Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr. Gofynnwn yn garedig i chi godi'r disgyblion o Stadiwm Cwmbrân am 5 o'r gloch.
Cwis 'Keep Me Safe'. Ysgol Uwchradd Cwmbrân. (6 o'r gloch. Bydd Mrs Young yn cwrdd â'r disgyblion am 5:45.)
Dydd Iau:
** Bydd COLORFOTO mewn heddiw i dynnu lluniau o'r dosbarthiadau a gwahanol dimoedd heddiw. Gofynnwn yn garedig i'r disgyblion ddod i'r ysgol yn eu gwisg ysgol gywir os gwelwch yn dda. **
Bydd yr WRU yn cynnal sesiwn hyfforddi gyda merched blwyddyn 4 heddiw. (1 - 1:45)
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.
Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Ymarfer dawnsio disgo ar gyfer yr Eisteddfod o 3:30 - 4:30.
Cyngerdd côr yn Theatr y Congress, Cwmbrân. 6 - 6. Byddwn yn cwrdd â'r disgyblion yno am 5:40.
Gwisg y côr os gwelwch yn dda.
Dydd Gwener:
Sesiynau Creadigol Ffa La La gyda disgyblion blynyddoedd 3 a 4.
** Diwrnod y Trwynau Cochion: Gall y disgyblion ddod i'r ysgol mewn gwisg anffurfiol / dillad coch heddiw. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad tuag ar 'Comic Relief'. **
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Diolch yn fawr.