Trefniadau'r Wythnos:
3rd March 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Byddwn yn dathlu Pythefnos Masnach Deg dros y pythefnos nesaf. **
Bydd pob dosbarth yn gwneud gweithgaredd noddedig er mwyn codi arian ar gyfer NSPCC yn ystod yr wythnos.
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Y gwahaniaeth rhwng 'pan' a 'pryd'.
Band yr Wythnos:
Catatonia. Byddwn yn gwrando ar y caneuon 'International Velvet' a 'Gyda gwen' yn y dosbarthiadau yr wythnos hon.
Dydd Llun:
Taith Blynyddoedd 1 a 2 i Sain Ffagan. Bydd angen pecyn cinio a gwisg ysgol ar y disgyblion os gwelwch yn dda. Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bot côt law gyda phob un.
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i'r Ganolfan TA yng Nghwmbrân prynhawn 'ma ar gyfer 'Crucial Crew'. Bydd angen côt law ar bob un os gwelwch yn dda.
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6) £1
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
(09:10 yn neuadd yr ysgol.)
Taith dosbarth Miss Westphal i TESCO. **Mae hwn wedi'i ohirio bellach. **
Bydd y disgyblion yn ôl mewn amser i gael cinio.
Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 o 3:30 - 4:30.
Ymarfer côr o 3:30 - 4:30.
Dydd Mercher:
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Sesiwn hyfforddi pêl-droed gyda Chlwb pêl-droed Casnewydd ar gyfer dosbarth Mr Bridson prynhawn 'ma.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30. (£1)
Ymarfer ymgom ar ôl ysgol tan 4:30.
** Cyfarfod i rieni / gwarchodwyr disgyblion blwyddyn 6 sy'n mynd i Wynllyw blwyddyn nesaf. 6 o'r gloch yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân. **
Dydd Iau:
Gweithdai Creadigol Ffa La La gyda disgyblion blynyddoedd 3 a 4.
Bydd ailgylchu Torfaen yn dod i gynnal gweithdy gyda disgyblion blwyddyn 5 am 1:15 heddiw.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.
Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Ymarfer dawnsio disgo ar gyfer yr Eisteddfod o 3:30 - 4:30.
Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Diolch yn fawr.