Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

17th February 2017

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos ar ôl hanner tymor:

Bydd y disgyblion yn dechrau'n ôl yn yr ysgol ar ddydd Llun, Chwefror 27ain.

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Y Cyfnod Sylfaen: Ga' i fynd ..... ?
Cyfnod Allweddol 2: gormod, yn lle 'rhy gormod'.

Dydd Llun:

Gweithdy Spectrum Blynyddoedd 2 a 6.

Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6) £1

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth a gweithdai NSPCC. (Gweler y llythyr a ddanfonwyd adref ar 17.02.2017)

Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 o 3:30 - 4:30.

Ymarfer côr o 3:30 - 4:30.

Dydd Mercher:

Dydd Gwyl Dewi: Gall y disgyblion wisgo dillad traddodiadol Cymreig / crysau rygbi a phêl-droed Cymru i'r ysgol os ydynt yn dymuno.

Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30. (£1)

Dim Clwb Ysgrifennu Creadigol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.

Dydd Iau:

Byddwn yn dathlu 'Diwrnod y Llyfr' yn yr ysgol heddiw. Gall y disgyblion wisgo fel cymeriad o lyfr i'r ysgol heddiw os ydynt yn dymuno.

Gweithdai Creadigol Ffa La La gyda disgyblion blynyddoedd 3 a 4 wedi'u selio ar Ddiwrnod y Llyfr.

Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.

Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.

Clwb pêl-rwyd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.

Dydd Gwener:

Gall dosbarth Mr Bridson wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Chwefror.

Gweithdy Gwyddoniaeth ar gyfer dosbarth Miss Faulknall.

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)

Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr