Cystadleuaeth Teipio Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
15th February 2017
Cymerodd disgyblion o flynyddoedd 1 i 6 ran mewn cystadleuaeth teipio heddiw.
Dechreuodd y diwrnod gyda'r disgyblion yn cystadlu yn eu dosbarthiadau. Aeth yr un buddigol o bob dosbarth ymlaen i'r rownd derfynol cyn cinio, lle chwaraeon nhw yn erbyn bob dosbarth arall o fewn yr un cyfnod allweddol.
Cawsom ddau enillydd - merch o flwyddyn 2 oedd pencampwr y Cyfnod Sylfaen a bachgen o flwyddyn 6 oedd pencampwr Cyfnod Allweddol 2 felly llongyfarchiadau mawr i'r ddau ohonynt. Ein sgor uchaf ar 2Pop oedd 160, sy'n wych.
Da iawn i bob un a diolch i bawb am weithio mor galed i wella eu sgiliau teipio.
Da iawn.