Trefniadau'r Wythnos:
9th February 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Sylwch: Does dim ymarfer côr na chlwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 nos Fawrth gan fod noson rieni yn yr ysgol. **
Band yr wythnos yw Maharishi:
Byddwn yn gwrando ar ganeuon ‘Tŷ ar y mynydd’ a ‘Toni’ yn yr ysgol yr wythnos hon.
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Gwario arian / Treulio amser.
Dydd Llun:
Bydd Miss Rhian James a Miss Helen Rogers o Ysgol Gyfun Gwynllyw yn dod i siarad gyda disgyblion blwyddyn 6 heddiw.
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6) £1
Sesiynau Spectrum ar gyfer disgyblion blynyddoedd 2 a 6 heddiw.
(Anfonwyd llythyr am y sesiynau hyn adref gyda'r disgyblion wythnos diwethaf.)
Noson rieni ar ôl ysgol.
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos:
(09:10 yn neuadd yr ysgol)
Dim clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 gan fod noson rieni.
Dim ymarfer côr gan fod noson rieni.
Dydd Mercher:
Sioe bypedau i blant y Cyfnod Sylfaen.
** Cystadleuaeth Deipio ar gyfer plant o flynyddoedd 1 i 6. **
Cystadleuaeth hoci yn Stadiwm Cwmbrân rhwng 1:30 a 3:15.
Bydd angen 'shin pads' a 'gum shield' ar y disgyblion os gwelwch yn dda.
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30. (£1)
Dim Clwb Ysgrifennu Creadigol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 gan fod Clwb yr Urdd ar eu cyfer nhw.
Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.
Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Clwb ffitrwydd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Gwener:
Diwrnod ola'r hanner tymor. Byddwn yn gorffen ar gyfer wythnos o wyliau heddiw. Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Llun, Chwefror 27ain.
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci blwyddyn 6.
** Yr wythnos ar ôl hanner tymor: **
Dydd Mercher, Mawrth 1af: Byddwn yn dathlu Dydd Gwyl Dewi heddiw. Gall y disgyblion wisgo dillad traddodiadol Cymreig / crysau rygbi a phêl-droed Cymru i'r ysgol os ydynt yn dymuno.
Dydd Iau, Mawrth Ail: Byddwn yn dathlu 'Diwrnod y Llyfr' yn yr ysgol heddiw. Gall y disgyblion wisgo fel cymeriad o lyfr i'r ysgol heddiw os ydynt yn dymuno.
Diolch yn fawr.