Diwrnod E-ddiogelwch, 2017:

Diwrnod E-ddiogelwch, 2017:

7th February 2017

Mae pawb wedi gweithio’n galed iawn heddiw ac wedi dysgu nifer fawr o bethau am e-ddiogelwch.

Dechreuodd y diwrnod gyda gwasanaeth ysgol gyfan a gafodd ei arwain gan ein harweinwyr digidol. Ar ôl y gwasanaeth, aeth y disgyblion yn ôl i’w dosbarthiadau a chafodd bob un wers gan ddisgyblion blwyddyn 6. Roedd gan bob dosbarth dasg wahanol i’w chwblhau e.e. creu posteri, gemau a thabl yn amlinellu manteision ac anfanteision y we.

Ar ddiwedd y dydd, daeth pob dosbarth ynghyd yn eu dosbarthiadau i weithio ar bwer-bwynt byw rhwng bob dosbarth o flwyddyn 1 i flwyddyn 6. Cafodd pob dosbarth gyfle i ysgrifennu yr hyn roeddent wedi’i ddysgu am e-ddiogelwch ac roedd ambell dosbarth wedi cynnwys darnau o waith a lluniau o’r gweithgareddau. Rhoddodd gyfle i’r disgyblion i weld yr hyn oedd wedi bod yn mynd ymlaen ym mhob dosbarth ac roedd cyfle ganddynt i roi adborth ar y gwaith hynny.

Da iawn i bawb.


^yn ôl i'r brif restr