Boreau o hwyl yn ystod hanner tymor.
3rd February 2017
Mae Menter Iaith BGTM wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau yn ystod yr wythnos.
Mae'r gweithgareddau yn addas ar gyfer disgyblion o'r derbyn lan at flwyddyn 6.
Cost bob bore yw £3 neu £12 am yr wythnos gyfan. Ceir nifer fawr o weithgareddau megis celf a chrefft, paentio, gemau, gwneud cardiau a gwehyddu.
Mae'n gyfle gwych i'r disgyblion gymdeithasu yn y Gymraeg gyda disgyblion o ysgolion eraill yr ardal. Byddai'n hyfryd gweld disgyblion o Ysgol Gymraeg Cwmbrân yno.
Diolch yn fawr.