Trefniadau'r Wythnos:
2nd February 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Cantores yr wythnos yw Casi Wyn.
Byddwn yn gwrando ar ganeuon ‘Tywyll Heno’ a ‘Lion’ yn yr ysgol yr wythnos hon.
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Ein patrwm iaith yr wythnos hon yw 'siarad gyda', nid 'siarad i'.
Dydd Llun:
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6) £1
Dydd Mawrth:
Bydd plant y côr yn teithio i Gaerdydd heddiw er mwyn canu mewn cyngerdd i groesawu tîm pêl-rwyd Seland Newydd i Gymru am y tro cyntaf ers deng mlynedd. Bydd angen i'r disgyblion wisgo gwisg y côr a bydd angen iddynt fod yn yr ysgol erbyn 08:30. Bydd y disgyblion yn ôl yn yr ysgol erbyn amser cinio.
Diwrnod E-ddiogelwch.
Bydd nifer o weithgareddau yn ymwneud ag e-ddiogelwch ymlaen yn yr ysgol heddiw. Bydd yr Arweinwyr Digidol yn rhoi gwasanaeth i'r holl ysgol fore dydd Mawrth ac yna bydd disgyblion blwyddyn 6 yn rhoi gwers i bob dosbarth.
(Am fwy o wybodaeth ar e-ddiogelwch, edrychwch ar yr wefan isod.)
Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (£1)
(3:30 -4:30)
Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Mercher:
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Bydd gan ddosbarth Mr Bridson sesiwn hyfforddi prynhawn 'ma gyda Chlwb Pêl-droed Casnewydd.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30. (£1)
Clwb Ysgrifennu Creadigol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 o 3:30 - 4:30.
Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.
Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Cwis-Eco yn Theatr y Congress rhwng 6 a 8.
(Bydd Mrs Young yno i gwrdd â'r disgyblion am 5:45.) POB LWC!
Dydd Gwener:
Dydd Miwsig Cymru: Byddwn yn dathlu cerddoriaeth Gymaeg yn yr ysgol heddiw felly gall y disgyblion wisgo dillad eu hunain i'r ysgol. Byddwn yn gwenud amrywiaeth o wersi yn ymwneud gyda cherddoriaeth Gymraeg yn ystod y dydd a byddwn yn gwrando ar amrywiaeth o ganeuon yn y dosbarthiadau.
Mae dosbarth Miss Hughes wedi bod yn derbyn gwersi ffidil am dymor bellach. Bore 'ma, bydd y disgyblion yn arddangos eu sgiliau i'w rhieni / gwarchodwyr mewn cyngerdd. Neuadd yr ysgol am 09:30 - 10:30.
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Diolch yn fawr.