Ymweliad arbennig gan DJ SAL:

Ymweliad arbennig gan DJ SAL:

1st February 2017

Daeth DJ SAL, o raglen Ysbyty / Hospital i'n gweld ni yn ystod ein gwasanaeth bore ddoe.

Roedd disgyblion yr ysgol yn drist i glywed bod rhaglen Ysbyty Hospital yn dod i ben. Roedd rhai o flwyddyn 6 mor drist fel eu bod wedi ysgrifennu llythyron at Gomisiynydd Plant S4C, Sioned Wyn Roberts, yn mynegi eu siom. Ddoe, derbyniodd y disgyblion lythyr gan Sioned a daeth DJ SAL i'n gwasanaeth er mwyn diolch yn bersonol iddynt.

Cafodd y disgyblion eu cyflwyno i raglenni newydd sy'n mynd i fod ar S4C yn y dyfodol agos felly edrychwn ymlaen at weld y rhaglenni hyn cyn hir.

Diolch i DJ SAL am wneud y disgyblion yn hapus iawn.


^yn ôl i'r brif restr