Trefniadau'r Wythnos:
26th January 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Plant y Cyfnod Sylfaen: Ga' i help i .....
Disgyblion Cyfnod Allweddol 2: Nid 'bod mae' ond 'bod' yn unig e.e. Dwi'n credu bod ....
Band yr Wythnos:
Yr wythnos hon, byddwn yn gwrando ar ganeuon gan Swnami yn y dosbarth. Rhai o'r caneuon byddwn yn gwrando arnynt yw 'Gwreiddiau' a 'Gwenyn'.
Dydd Llun:
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6)
Bydd y Gwasanaeth Tân yn dod i weld disgyblion o flynyddoedd 2 a 5 heddiw.
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
(09:10 yn neuadd yr ysgol)
Bydd Western Power yn ymweld gyda disgyblion blwyddyn 4.
Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (£1)
(3:30 -4:30)
Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Mercher:
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Bydd PC Thomas yn cynnal sesiwn ar e-ddiogelwch gyda disgyblion blyndydoedd 4, 5 a 6 am 1:30 heddiw.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30. (£1)
Dim Clwb Ysgrifennu Creadigol gan fod Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.
Cystadleuaeth Rygbi a Phêl-rwyd yr Urdd.
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni rhwng 10 a 3.
Bydd angen pecyn cinio a digon o ddwr ar y disgyblion a bydd angen digon o ddillad cynnes.
(Bydd angen i'r rhai sy'n dioddef o asthma ddod â phwmp gyda nhw)
Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Gwener:
Gall disgyblion dosbarth Mr Bridson wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Ionawr. Da iawn chi.
Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes.
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Diolch yn fawr.