Llongyfarchiadau i'n nofwyr talentog bore 'ma.
21st January 2017
Cystadlodd y disgyblion o flynyddoedd 3 a 4 yng Ngala Nofio'r Urdd yng Nghaerdydd.
Roedd y ddau ddisgybl lan yn gynnar ac ym Mhwll Nofio Rhyngwladol Caerdydd erbyn 9 yn barod i gynhesu lan. Nofiodd y ddau yn wych ac aeth y ddau ddisgybl ymlaen i'r rownd nesaf yn y ddwy ras roeddent yn cystadlu ynddynt.
Daeth Ellis yn 5ed ac yn 6ed yn ei rasys e ac enillodd Carys ei rasys hi.
Roeddent yn cynrychioli Gwent ac yn cystadlu yn erbyn ysgolion ar draws Gymru gyfan. Rydym yn falch iawn ohonynt.
Da iawn chi.