Trefniadau'r Wythnos:
19th January 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Dweud 'wrth' berson, nid dweud 'i' berson.
 Band yr Wythnos:
 Yr wythnos hon, byddwn yn gwrando ar ganeuon gan Yws Gwynedd yn y dosbarth. Un o'r caneuon byddwn yn gwrando arni yw 'Sebona Fi'.
 Dydd Llun:
 Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6)
 Dydd Mawrth:
 Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (£1) 
(3:30 -4:30)
 Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.
 Dydd Mercher:
Diwrnod Santes Dwynwen:
Bydd gwasanaeth arbennig yn yr ysgol bore 'ma. 
 Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30. 
Sesiwn Hyfforddi Pêl-droed ar gyfer dosbarth Mr Bridson gyda Chlwb Pêl-droed Casnewydd.
(1:20 - 2:20)
 Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30. (£1)
Clwb Ysgrifennu Creadigol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Cystadleuaeth Hoci yn Stadiwm Cwmbrân. (3-5)
Mae'r disgyblion sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.
Gofynnwn yn garedig i rieni gasglu'r disgyblion o Stadiwm Cwmbrân am 5 os gwelwch yn dda.
 Dydd Iau: 
Bydd nyrs yr ysgol yn ymweld â disgyblion blynyddoedd 5 a 6 prynhawn 'ma.
(Gweler y llythyr.)
 Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.
 Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
 Clwb ffitrwydd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
 Dydd Gwener:
 Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes.
 Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
 Gwers hoci blwyddyn 6. 
  Diolch yn fawr.
