Lansio'r Siarter Iaith:
19th January 2017
Diolch i bawb ddaeth i'r ysgol ar gyfer ein prynhawn agored ddoe; rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn.
Diolch i bob un.
Daeth nifer o bobl i ymuno gyda ni ar gyfer y prynhawn gan gynnwys Seren a Sbarc a Mr Urdd, Ffa La La, Menter Iaith, Cymraeg i Oedolion a siop lyfrau Cymraeg.
Roedd yn brynhawn llwyddiannus iawn a gobeithiwn yn fawr y gallwn ni gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg ac i sicrhau bod ein disgyblion a'n teuluoedd yn defnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.
Diolch yn fawr i bawb.