Gweithdy Gwyddoniaeth Blwyddyn 5:

Gweithdy Gwyddoniaeth Blwyddyn 5:

18th January 2017

Mae disgyblion blwyddyn 5 wrthi'n mwynhau gweithdy Gwyddoniaeth gyda gwyddonwr bore 'ma.

Bore 'ma, mae'r disgyblion wedi bod yn dysgu am daith gwyddonwr i'r Antartig ac maent wedi bod yn dysgu am anifeiliaid a'u cynefinoedd. Maent wedi bod yn dysgu am yr anifeiliaid a sut maent yn cadw'n gynnes mewn tymheredd oer iawn.

Yn y lluniau, mae'r disgyblion wrthi yn arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau er mwyn profi sut mae gwahanol anifeiliaid yn cadw'n gynnes.

Diolch i Miss Faulknall am drefnu'r sesiwn.


^yn ôl i'r brif restr