Prynhawn agored yfory:
17th January 2017
Cofiwch ein bod ni'n lansio'r Siarter Iaith yn yr ysgol rhwng 2 a 4 yfory.
Bydd llawer o bethau yn mynd ymlaen yn yr ysgol a bydd cyflwyniad byr ar y Siarter Iaith yn y neuadd am 2:15.
Pethau fydd ar gael yn neuadd yr ysgol:
Siop lyfrau Cymraeg yn gwerthu llyfrau Cymraeg i blant.
Cwmni Ffa La La — gweithdai creadigol (Dosbarth Miss Hughes)
Cynrychiolydd o Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy.
Cynrychiolwyr o Urdd Gwent yn trafod digwyddiadau yn yr ardal leol.
Coleg Gwent yn trafod gwersi Cymraeg i oedolion.
Stondin S4C yn rhoi gwybodaeth i rieni / gwarchodwyr am raglenni Cymraeg.
Caffi yn cynnig coffi, te a chacen Cymreig.
Bwrdd gyda syniadau am apiau defnyddiol i’w defnyddio yn y cartref.
Bydd cyflwyniad ar y Siarter Iaith yn y neuadd rhwng 2:15a 2:45.
Bydd cyfle i chi grwydro o gwmpas yr ysgol er mwyn gweld gwaith y disgyblion.
Dewch i gefnogi!
Gobeithiwn eich gweld chi yno.