Cystadleuaeth Teipio Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Cystadleuaeth Teipio Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

13th January 2017

Ar ddydd Mercher, Chwefror 15fed, byddwn yn cynnal cystadleuaeth teipio ym mhob dosbarth o flwyddyn 1 i flwyddyn 6.

Byddwn yn defnyddio rhaglen 2type ar Purple Mash (2pop a falling letters) er mwyn profi pa mor gyflym ydy pob disgybl. Bydd y disgybl gyda’r sgôr uchaf ym mhob dosbarth yn ennill a bydd cyfle i fynd trwy i’r rownd derfynol er mwyn cael enillydd o’r Cyfnod Sylfaen ac un o Gyfnod Allweddol 2.

Pethau i’w hymarfer adref ac yn yr ysgol:

Dros yr wythnosau nesaf, dylech ymarfer eich sgiliau teipio adref ac yn yr ysgol. Ceisiwch ddefnyddio eich llaw chwith ar gyfer ochr chwith y bysellfwrdd a’ch llaw dde ar gyfer ochr dde’r bysellfwrdd.
Ewch ati i ymarfer teipio’r wyddor allan yn gyflym; ysgrifennwch eich enw (yn cynnwys prif lythrennau pan fod angen); ysgrifennwch eich cyfeiriad, Ysgol Gymraeg Cwmbrân ayyb. Ewch ati i ymarfer cymaint o eiriau a brawddegau ag sy’n bosib.

a b c ch d dd e f ff g ng h i j l ll m n o p ph r rh s t th u w y

Pob lwc i bawb.


^yn ôl i'r brif restr