Trefniadau'r Wythnos:
12th January 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Y berfau cryno e.e. Cerddais i, Cerddaist ti, Cerddodd e/hi, Cerddon ni, Cerddoch chi, Cerddon nhw
Band yr Wythnos:
Yr wythnos hon, byddwn yn gwrando ar ganeuon gan fand 'Daniel Lloyd a Mr Pinc' yn y dosbarth. Y prif ganeuon byddwn yn gwrando arnynt yw 'Eldon Terrace' a 'Goleuadau Llundain'.
Mae clybiau ar ôl ysgol yn ail ddechrau yr wythnos hon.
(Gweler y llythyr dyddiadau yn rhan 'Llythyron Adref' y wefan yn ogystal.)
Dydd Llun:
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6)
Dydd Mawrth:
Gweithdy Gwyddoniaeth i ddisgyblion blwyddyn 5 yn y bore.
Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (3:30 -4:30)
Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Mercher:
** Diwrnod Lansio y Siarter Iaith **
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol mewn dillad coch, gwyn a/neu gwyrdd os ydynt yn dymuno. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £1, hanner tuag at Urdd Gwent ac hanner tuag at ein helusen ar gyfer y flwyddyn.
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Prynhawn Agored rhwng 2 a 4.
Bydd nifer fawr o stondinau yn neuadd yr ysgol yn ystod y prynhawn a bydd te, coffi a chacen Gymreig ar gael hefyd.
Dewch i gefnogi ac i ddysgu am y Siarter Iaith.
Gweithdai creadigol a cherddoriaeth Ffa La La gyda phlant y feithrin a'r derbyn.
Dim clwb yr Urdd na chlwb ysgrifennu ar ôl ysgol gan fod y prynhawn agored.
Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.
Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Clwb ffitrwydd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes.
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Dydd Sadwrn:
Rownd derfynol Gala Nofio'r Urdd yng Nghaerdydd.
Pob lwc i'r disgyblion sy'n cymryd rhan yn y Gala Nofio heddiw.
Diolch yn fawr.