Trefniadau'r Wythnos:
6th January 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Byddaf i / Bydda' i (Nid 'Bydd fi)
Yr wythnos hon, byddwn yn gwrando ar ganeuon Al Lewis yn y dosbarth.
(Mae'r rhain yn cynnwys y caneuon 'Doed a ddel' a 'Hanes yn y lluniau'.)
 ** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **
Bydd clybiau yn ail ddechrau wythnos nesaf - llythyr i ddilyn.
 Dydd Llun:
Bydd disgyblion dosbarth Mr Bridson yn mynd ar daith i'r sinema yng Nghwmbrân heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer Rhagfyr. 
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6)
  Dydd Mercher:
 Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30. 
Sesiwn hyfforddi pêl-droed ar gyfer dosbarth Mr Bridson gan glwb pêl-droed Casnewydd.
 Dydd Iau: 
 Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.
  Dydd Gwener:
** Diwrnod olaf i ddanfon cardiau Nadolig mewn i gael eu hail gylchu. **
 Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
 Gwers ffidil blwyddyn 2 Miss Hughes.
 Gwers hoci blwyddyn 6. 
 Diolch yn fawr.
