Cyflwyniad y Siarter Iaith yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Cyflwyniad y Siarter Iaith yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

5th January 2017

Rydym yn falch iawn ac yn gyffrous i fod yn rhan o'r Siarter Iaith, ymgyrch gan Lywodraeth Cymru.

Beth yw’r Siarter Iaith?
Nod y Siarter Iaith yw annog plant i siarad Cymraeg yn amlach mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am arwain y Siarter, ac yn eu geiriau nhw, ‘Mewn gair, ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau’ yw’r nod. Dros y tair blynedd nesaf, bydd pob plentyn ym mhob ysgol Gymraeg yn cael cyfle i ennill gwobr efydd, arian ac aur. Mae hyn yn dibynnu ar faint o Gymraeg maen nhw’n ei siarad o ddydd i ddydd - mewn sefyllfaoedd amrywiol yn yr ysgol a’r gymuned. Mae’r Siarter Iaith yn gyfle i bawb yng nghymuned yr ysgol chwarae eu rhan wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg - cyngor yr ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn o’r iaith.

Beth yw manteision y Siarter Iaith?
Rydych chi eisoes wedi dewis addysg Gymraeg i’ch plentyn ac yn deall manteision medru siarad dwy iaith. Mae cywirdeb iaith yn holl bwysig yn nhermau cyrhaeddiad addysgol plant. Y ffordd orau o sicrhau hyn wrth eich bod chi, fel cymuned yr ysgol, yn annog eich plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg ar bob cyfle posibl.
Rydym ni yn gyffrous iawn i weithio gyda phob rhiant i gynyddu faint o Gymraeg
sy’n cael ei siarad yn yr ysgol a thu hwnt.

RYDYM YN GYFFROUS IAWN I FOD YN RHAN O’R FENTER HON A HOFFEM EICH GWAHODD I’W LANSIAD AR Y 18fed O IONAWR 2017.

(Gweler y poster yn rhan 'Llythyron Adref' y wefan.)

Edrychwn ymlaen i'ch gweld yn yr ysgol ar brynhawn dydd Mercher, y 18fed o Ionawr.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr