Newyddion Rhagfyr yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Newyddion Rhagfyr yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

16th December 2016

Bydd y disgyblion yn derbyn llythyr heno, gyda newyddion yr hanner tymor diwethaf.

Mae wedi bod yn hanner tymor prysur a llwyddiannus yma yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân ac isod, tynnwn eich sylw at rai o’r uchafbwyntiau!

Ym misoedd Hydref a Tachwedd, aeth disgyblion o flynyddoedd 3 a 4 i ymweld ag Amgueddfa Blaenafon i ddysgu mwy am yr Ail Ryfel Byd ac i atgyfnerthu gwaith y dosbarth ar y thema.

Daeth Helen Rogers a Rhian James o Wynllyw i siarad gyda disgyblion blwyddyn 6 ar y 4ydd o Hydref. Bydd sawl cyfle yn ystod y flwyddyn i ymweld â Gwynllyw.

Fel rhan o ddathliadau Roald Dahl, daeth cwmni ‘Mewn Cymeriad’ i berfformio i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 er mwyn rhoi cyflwyniad iddynt ar rai o brif gymeriadau ei straeon.

Teithiodd disgyblion blwyddyn 6 i Gaerdydd ym mis Hydref i gymryd rhan mewn rhaglen deledu o’r enw ‘Piga dy drwyn’. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C ym mis Ionawr.

Aeth 29 o ddisgyblion i’r Royal Albert Hall yn Llundain ar Dachwedd 16eg fel rhan o raglen ‘Music For Youth’. Aeth llawer o rieni gyda’r disgyblion ar y daith; mwynhaodd pawb yn fawr iawn.

Cynhaliwyd wythnos werthoedd lwyddiannus arall ym mis Tachwedd. Daeth nifer fawr o rieni mewn i weithio gyda’r disgyblion ar gyfer cwblhau gweithgaredd wrth-fwlio.

Aeth disgyblion blwyddyn 4 i Jambori yr Urdd yn Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar Dachwedd 14eg.

Mwynhaodd plant o flynyddoedd 1 a 2 ymweliad a gweithdy gan Ronnie y T-Rex a’i warchodwr, Chris. Yn ystod y gweithdy, dysgon nhw am nifer fawr o ddinosoriaid gwahanol.

Aeth plant y côr i ganu yn ‘Sul yr Urdd’ ym Mhontypwl ar Dachwedd 20fed gyda disgyblion o Fryn Onnen, Panteg a meithrinfa Pontypwl.

Aeth nifer o ddisgyblion CA2 i gymryd rhan yng ngala nofio’r Urdd ym Mhontypwl ar Dachwedd 17eg. Bydd dau ddisgybl yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol sy’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Ionawr.
Chwaraeodd y tîm rygbi mewn gem gyfeillgar yn erbyn Ysgol Henllys. Mae cystadleuaeth yr Urdd wedi ei ail drefnu ar gyfer mis Chwefror.

Daeth cwmni ‘Mewn Cymeriad’ i berfformio drama ar hanes y Blits yn Abertawe i ddisgyblion CA2. Dysgodd y disgyblion am fywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Rydym bellach yn ysgol ‘Sustrans’ ac rydym yn awyddus i ddisgyblion gerdded, gyrru sgwter neu feicio i’r ysgol bob dydd. Mae Hamish, o Sustrans, wedi ymweld â’r ysgol a bydd yn dod eto nifer o weithiau cyn diwedd y flwyddyn.

Aeth plant y derbyn i weld sioe ‘Cyw’ yng Nghaerdydd; mwynhaodd bob un.

Roedden ni i gyd yn hynod falch o Travis Carter, disgybl ym mlwyddyn 4. Enillodd ef gystadleuaeth i ddylunio cerdyn Nadolig ar gyfer ein Prif Weinidog, Carwyn Jones. Daeth Carwyn Jones i’r ysgol er mwyn cyflwyno’r garden wedi’i fframio i Travis. Cafodd y disgyblion gyfle i berfformio caneuon o’r cyngherddau Nadolig i’n prif weinidog a chafodd yr ymweliad ei ddarlledu ar ‘Heno’.

Cawsom Ffair Nadolig lwyddiannus arall ar yr 2il o Ragfyr. Codwyd dros £1000 ar gyfer yr ysgol. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Laura Keenan am ei holl waith caled ac ymroddiad dros y blynyddoedd diwethaf. Yn anffodus, mae Laura wedi penderfynu sefyll lawr o’i swydd fel Cadeirydd i’r Gymdeithas Rieni ac Athrawon.
Perfformiwyd pum gyngerdd lwyddiannus iawn ar ddiwedd y tymor. Rydym yn falch iawn o bob disgybl; roeddent yn wych ym mhob cyngerdd.

Rydym yn danfon ein llongyfarchiadau i Miss Wena Williams a’i theulu ar ôl genedigaeth Osian Michael ac i Miss Holly Norman a’i theulu ar ôl genedigaeth Ivy-Rose.

Ar hyn o bryd, presenoldeb yr ysgol yw 95.5%. Ein targed ar gyfer eleni yw 95.6% felly da iawn i bawb. Mae dosbarth Mr Bridson a Mrs Dalgleish wedi ennill presenoldeb y mis eleni ac roedd y disgyblion wedi mwynhau gwisgo dillad eu hunain i’r ysgol. Gofynnwn yn garedig i’r disgyblion gyrraedd yr ysgol yn brydlon am 8:55 am er mwyn dechrau’r ysgol am 9:00 am. Mae’r rheiny sy’n hwyr yn aml yn colli allan ar bethau pwysig ac maent hefyd yn amharu ar y dosbarth.

Yn anffodus, mae Miss Enfys Owen yn ein gadael ni ar ddiwedd yr wythnos. Hoffwn ddiolch yn fawr iddi am ei holl waith caled yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ei gwaith caled gyda’r eco-bwyllgor. Rydym yn gwerthfawrogi ei gwaith yn fawr iawn. Mae Miss Owen yn mynd i weithio yn Lesotho am chwech mis a dymunwn yn dda iawn iddi; byddwn i gyd yn gweld ei heisiau. Diolch yn fawr am bopeth, Miss Owen.

Cardiau Nadolig: Mae’r Eco-bwyllgor wedi penderfynu ein bod am ailgylchu cardiau Nadolig eleni. Bydd cystadleuaeth yn cael ei rhedeg rhwng ysgolion Torfaen er mwyn gweld pwy sy’n gallu casglu’r mwyaf. Gofynnwn yn garedig i chi ddanfon unrhyw gardiau i’r ysgol ym mis Ionawr.

Cofiwch ein bod ni bellach ar Twitter felly, er mwyn i chi ddal lan gyda rhai o’r pethau sy’n digwydd yn yr ysgol, cofiwch ein dilyn ni ar @ygcwmbran.

Diolch am eich holl gefnogaeth eleni. Edrychwn ymlaen at groesawu’r disgyblion yn ôl i’r ysgol ar ddydd Mercher, Ionawr 4ydd, 2017.

HOFFWN DDYMUNO NADOLIG LLAWN A BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB.

Diolch yn fawr.

Cofiwch:
SCHOOP: 10319 /
Twitter: @ygcwmbran


^yn ôl i'r brif restr