DIOLCH YN FAWR I BAWB:

DIOLCH YN FAWR I BAWB:

16th December 2016

Dydyn ni methu credu'r ymateb i'n hapel Nadolig ac rydym yn ddiolchgar iawn am bob cyfraniad.

Penderfynon ni wneud pethau ychydig yn wahanol eleni ar gyfer ein diwrnod siwmper Nadoligaidd.

Gofynnon ni am arian tuag at Achub y Plant, tuniau ar gyfer y banc bwyd neu bethau ymolchi ar gyfer y digartref. Dydyn ni methu credu'r ymateb rydym ni wedi ei gael ac rydym yn gwerthfawrogi bob cyfraniad yn fawr iawn.

Casglwyd 40 o fagiau ar gyfer y digartref gyda phob bag yn cynnwys nwyddau 'molchi angenrheidiol.

Rhoddwyd dros 60 o nwyddau ymolchi ychwanegol ar ben y bagiau.

Casglwyd nifer fawr iawn o duniau, bwyd a siocled ar gyfer banc bwyd lleol. (Gweler y llun)

Casglwyd £80 ar gyfer Achub y Plant yn ogystal.

Diolch yn fawr iawn i bawb; mae'n hyfryd ein bod ni gyd wedi dod at ein gilydd i helpu rhai sy'n llai ffodus na ni dros y Nadolig.

Diolch yn fawr a Nadolig Llawen i bawb.


^yn ôl i'r brif restr