Gweithdai Techniquest CA2:
13th December 2016
Mae disgyblion blynyddoedd CA2 wedi mwynhau cymryd rhan mewn gweithdai gan Techniquest heddiw a ddoe.
Cafodd y disgyblion weithdai ar y themâu canlynol.
Blynyddoedd 3 a 4: Y Corff
Blynyddoedd 5 a 6: Grymoedd
Dysgon nhw lawer o wybodaeth am y corff a grymoedd gwahanol ac roedd yn wych cael cyfle i arbrofi gyda phethau gwahanol.
Diolch yn fawr i Techniquest am y gweithdai ac i Mrs Dalgleish am drefnu.