Cydweithio gydag ysgolion eraill y GCA:
13th December 2016
Rydym wir wedi mwynhau cymryd rhan mewn prosiect Nadoligaidd heddiw.
Cymerodd disgyblion o flynyddoedd 5 a 6 ran mewn cywaith Nadoligaidd gydag ysgolion ar draws y GCA. Roedd rhaid i bob dosbarth greu sleid ar Pwer Bwynt er mwyn esbonio sut rydym yn dathlu'r Nadolig yn yr ysgol.
Roedd yn brofiad gwych dysgu mwy am ysgolion eraill a chael cyfle i ofyn ac ateb cwestiynau ar y Nadolig yn ein hysgolion.
Diolch yn fawr i'r GCA am drefnu'r holl beth.
Nadolig Llawen!