Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

9th December 2016

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos:

Plant y Cyfnod Sylfaen: Wyt ti ....? Ydw / Nac ydw
Disgyblion Cyfnod Allweddol 2: Y gwahaniaeth rhwng 'mewn' ac 'yn'

** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **

Dydd Llun:
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6) £1
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Wynllyw er mwyn cymryd rhan yn y gyngerdd Nadolig yno.
10-12. (Bydd angen pecyn cinio a gwisg ysgol ar y disgyblion os gwelwch yn dda.)

Gweithdy Gwyddoniaeth Techniquest ar gyfer blynyddoedd 3 a 4.

Dydd Mawrth:

Gweithdy Gwyddoniaeth Techniquest ar gyfer blynyddoedd 5 a 6.

Bydd plant y côr yn perfformio mewn cartref i'r henoed heddiw.
(Gweler y llythyr yn 'Llythyron Adref'.)

Dydd Mercher:

Bydd cinio Nadolig yn ospiwn ar gyfer cinio poeth heddiw.
(Pris arferol)

Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.

** Gofynnwn yn garedig am yr arian ar gyfer y partio Nadolig erbyn heddiw os gwelwch yn dda. (£2) **
** Os ydych am ddod â thin i'r banc bwyd neu eitem ymolchi i'r digartref, gofynnwn yn garedig amdanyn nhw erbyn heddiw os gwelwch yn dda. **

Dydd Iau:

Dim gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.

Parti Nadolig:
Bydd y disgyblion yn cael bwyd parti yr wythnos hon yn lle cinio arferol. £2 yr un.
Gall y disgyblion wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw os ydynt yn dymuno. Os nad ydy eich plentyn eisiau bwyd parti, gall e / hi ddod â phecyn cinio i'r ysgol.

Dydd Gwener:

Diwrnod ola'r tymor.

Gall y disgyblion wisgo swimper Nadoligaidd / Gaeafol / dillad eu hunain i'r ysgol heddiw.
Gofynnwn yn garedig am un o'r canlynol:

Bwyd neu diniau i fanc bwyd lleol.
Cyfraniad ariannol i 'Achub y Plant'.
Eitemau ymolchi ar gyfer elusen i'r digartref.

Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.

Gwers ffidil blwyddyn 2.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Byddwn yn cau ar gyfer Nadolig am 3:30.

Dymunwn 'Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda' i bawb yn nheulu Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Edrychwn ymlaen at groesawu'r disgyblion yn ôl i'r ysgol ar ddydd Mercher, Ionawr 4ydd.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr