Da iawn i blant Cyfnod Sylfaen Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
9th December 2016
Mae plant y Cyfnod Sylfaen wedi perfformio eu cyngerdd Nadolig dair gwaith yr wythnos hon.
Mae'r plant wedi gweithio'n galed iawn ac rydym yn falch iawn ohonyn nhw i gyd.
Yn ystod y gyngerdd, aethom ni i nifer o wledydd ar draws y byd gyda Mam-gu cyn iddi fynd i Fethlehem i weld y baban Iesu.
Da iawn i bawb a diolch yn fawr i chi rieni / warchodwyr am eich cymorth gyda'r gwisgoedd anhygoel.
Nadolig Llawen!