Diwrnod Siwmper Nadoligaidd, 2016 yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Diwrnod Siwmper Nadoligaidd, 2016 yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

5th December 2016

Fel rydych yn gwybod, mae croeso i'r disgyblion ddod i'r ysgol mewn siwmper Nadoligaidd ar ddydd Gwener, Rhagfyr 16eg.

Rydym wedi penderfynu gwneud pethau ychydig yn wahanol eleni. Gan ei bod yn agosau at Nadolig, credwn bod y diwrnod hwn yn gyfle perffaith i ni feddwl am rai llai ffodus na ni.

Byddwn yn gofyn am gyfraniad o un o'r canlynol ar ddiwrnod Siwmper Nadoligaidd:

Tiniau bwyd ar gyfer Banc Bwyd lleol.
Eitemau ymolchi ar gyfer elusen i'r di-gartref.
Cyfraniad ariannol ar gyfer Achub y Plant.

Os hoffech gyfrannu tin bwyd neu eitem ymolchi, gofynnwn yn garedig i'r rhain ddod i'r ysgol erbyn dydd Mercher, Rhagfyr 14eg fel ein bod yn gallu dosbarthu'r eitemau cyn diwedd y tymor.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth; edrychwn ymlaen yn fawr at helpu elusennau lleol y Nadolig hwn.


^yn ôl i'r brif restr