Ymweliad gan ein Gweinidog, Carwyn Jones, i'r ysgol.

Ymweliad gan ein Gweinidog, Carwyn Jones, i'r ysgol.

5th December 2016

Roeddem yn hapus ac yn falch iawn i groesawu Carwyn Jones i'r ysgol heddiw.

Rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod un o'n disgyblion wedi ennill cystadleuaeth i ddylunio carden Nadolig ar gyfer ein Prif Weinidog. Cymerodd disgyblion o flynyddoedd 3 a 4 ran yn y gystadleuaeth ac roedd un disgybl o flwyddyn 4 yn fuddigol allan o Gymru gyfan. Bydd ei garden yn cael ei danfon ar draws y byd.

Croesawyd y Gweinidog mewn i'n gwasanaeth a gwrandawodd ar bum eitem o'n gwasanaethau Nadolig.

Bydd yr ymweliad yn cael ei ddangos ar raglen Heno ar S4C nos yfory.
(Os ydych yn colli'r rhaglen, gallwch ei gwylio ar S4C Clic - gweler y wefan isod.)

Da iawn i bawb.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr