Hyfforddiant Staff gan yr Arweinwyr Digidol:
28th November 2016
Rhoddodd pump o'n harweinwyr digidol sesiwn hyfforddi i'r staff heno.
Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi dechrau defnyddio Purple Mash fel ysgol. Mae'r disgyblion o flwyddyn 1 i flwyddyn 6 wedi derbyn manylion mewngofnodi ac maent wedi bod yn defnyddio Purple Mash i godio, creu modelau 3D, creu basau data, ysgrifennu erthyglau ac ysgrifennu e-byst.
Heno, rhoddodd yr Arweinwyr Digidol gyflwyniad yn ein cyfarfod staff ac roedd bob un o'r arweinwyr yn gyfrifol am un o'r elfennau o fewn Purple Mash. Rhanwyd y dosbarth i bum gorsaf gan gynnwys yr elfennau 2publish+, 2graph, 2question, 2designandmake a 2connect. Dosbarthwyd y staff i grwpiau o dri a threulion nhw chwech munud ym mhob gorsaf, yn cael eu dysgu gan un o'n Harweinwyr Digidol.
Gweithiodd y tim yn galed iawn er mwyn trefnu'r sesiwn hyfforddi ac rydym yn gwerthfawrogi eu help yn fawr iawn.
Diolch yn fawr.