Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

25th November 2016

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw gwyn.

Patrwm Iaith yr Wythnos:

Plant y Cyfnod Sylfaen: Mae …. gyda fi.
Disgyblion Cyfnod Allweddol 2: Maen nhw

Dydd Llun:
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6)

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
(09:10 yn neuadd yr ysgol.)
Clwb coginio i flwyddyn 2 dosbarth Mrs Dalgleish rhwng 3:30 a 4:30. (£1)
Ymarfer côr o 3:30 - 4:30.

Dydd Mercher:
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Dim Clwb Ysgrifennu Creadigol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.

Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Cystadleuaeth Rygbi a Phel-rwyd yr Urdd yn Ysgol Cwm Rhymni trwy’r dydd.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion os gwelwch yn dda, a digon o ddillad cynnes.)

Sioe CYW plant y derbyn. Bydd angen pecyn cinio os gwelwch yn dda.

Dydd Gwener:

**Ffair Nadolig: 3:30 yn neuadd yr ysgol. Croeso cynnes i bawb.**

Gwers ffidil blwyddyn 2 dosbarth Miss Hughes rhwng 09:10 a 10:10.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Gall disgyblion dosbarth Mr Bridson wisgo dillad eu hunain i’r ysgol gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Tachwedd gyda 97%. Da iawn.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr