Wythnos Gwerthoedd Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
24th November 2016
Diolch i rieni / gwarchodwyr / rhieni-cu am ddod i'r ysgol yn ystod yr wythnos i weithio gyda'ch plentyn / plant.
Rydym wedi cael wythnos gwerthoedd lwyddiannus iawn yn yr ysgol gyda nifer fawr o aelodau o'r teulu yn dod i'r ysgol i weithio gyda'n disgyblion. Ffocws yr wythnos oedd gwrth-fwlio ac e-ddiogelwch a gweithiodd y disgyblion ar greu poster neu bamffled ar y pynciau hyn.
Roedd y gwaith yn wych; diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth yn ystod yr wythnos.
Diolch yn fawr.