Diwrnod Disglair yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Diwrnod Disglair yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

23rd November 2016

Gwisgodd y disgyblion ddillad llachar dros eu gwisg ysgol i'r ysgol heddiw a rhoddwyd gwobrau i'r rhai mwyaf llachar a chreadigol.

Mae gennym newyddion cyffrous i’w rannu gyda chi. Mae’r ysgol wedi cael ei dewis i fod yn rhan o “Rhaglen Teithio Bywiog Sustrans", gan ddechrau'r tymor hwn. Credwn bod llawer o fanteision i’w cael wrth gynyddu nifer y disgyblion sy'n beicio, cerdded ac yn rheidio sgwter i’r ysgol ac adref eto. Mae ‘Teithio Bywiog’ yn gwella iechyd drwy ymarfer corfforol, hybu annibyniaeth, gwella ymwybyddiaeth o ddiogelwch ac yn ogystal, mae’n dda i'r amgylchedd. O ganyliad, bydd yna leihad yn y nifer o geir o gwmpas gatiau'r ysgol, sy’n gwneud ein hysgol yn fwy diogel yn ystod amseroedd prysur.

Rydym am gydweithio gyda Sustrans, sy’n elusen drafnidiaeth flaenllaw yn y wlad, er mwyn annog mwy o deithio i’r ysgol ar droed neu ar olwynion.

Mae diogelwch yn bwysig iawn i’r ysgol. Rydym wedi datblygu Polisi Teithio Byw i annog teithio diogel i'r ysgol. Mae'r penderfyniad ynghylch gallu plentyn i feicio, gyrru sgwter neu gerdded i'r ysgol yn gyfrifoldeb i’r rhieni / gofalwyr. Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i dywys eu plant yn ôl ac ymlaen i’r ysgol er mwyn sicrhau diogelwch y disgyblion ac i sicrhau eu bod yn gwisgo helmedau a dillad llachar.

Deallwn nad yw seiclo a cherdded i'r ysgol yn bosibl i bob teulu ac felly, bydd cyfleoedd eraill i’ch plentyn gymeryd rhan yn y rhaglen. Gallwch hefyd gefnogi'r fenter hon drwy gymryd gofal ychwanegol o bobl sydd wrthi’n teithio ar feic neu gerdded ar eich taith i'r ysgol. Rydym yn edrych ymlaen at weld mwy o ddisgyblion a rhieni / gofalwyr yn beicio, cerdded a gyrru sgwter i'r ysgol eleni.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr