Trefniadau'r Wythnos:
18th November 2016
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw du.
 Patrwm Iaith yr Wythnos:
 Plant y Cyfnod Sylfaen: ar ben / o dan
 Disgyblion Cyfnod Allweddol 2: cer  / ewch (yn lle mynd)
* Wythnos Gwerthoedd - gweler yr amserlen yn y rhan 'Cyhoeddiadau'.*
 Dydd Llun:
 Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6)
 Dydd Mawrth:
 Clwb coginio i flwyddyn 2 dosbarth Mrs Dalgleish rhwng 3:30 a 4:30. (£1)
 Ymarfer côr o 3:30 - 4:30.
Gem hoci i rai o ddisgyblion blwyddyn 6 yn Griffithstown. (3 - 4:30)
Mae'r rhai sy'n chwarae wedi derbyn llythyr. Bydd angen casglu'r disgyblion o Ysgol Gynradd Griffithstown am 4:30.
 Dydd Mercher:
** Diwrnod Disglair: Gall y disgyblion wisgo dillad llachar i'r ysgol heddiw ar ben eu dillad ysgol. **
(Gweler y llythyr)
 Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol.
 09:30-11:30. 
 Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
 Clwb Ysgrifennu Creadigol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)
 Dydd Iau: 
 Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.
 Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
 Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30. 
 Dydd Gwener:
 Gwers ffidil blwyddyn 2 dosbarth Miss Hughes rhwng 09:10 a 10:10.
 Gwers hoci blwyddyn 6. 
 Diwrnod Gwisg Anffurfiol. (Bydd llythyr yn cael ei ddanfon adref dydd Llun.)
Gofynnwn yn garedig am gyfraniadau ar gyfer y Ffair Nadolig sy'n digwydd dydd Gwener nesaf. 
 Diolch.
