Gala Nofio'r Urdd:
17th November 2016
Llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion aeth i gystadlu yng ngala nofio'r Urdd heddiw.
Aeth deg o ddisgyblion o Gyfnod Allwedoll 2 i gystadlu yn y gala ym Mhontypwl. Roedd y disgyblion yn llwyddiannus iawn a bydd sawl un yn cynrychioli Gwent yn y rownd nesaf yng Nghaerdydd ym mis Ionawr.
Byddwn yn rhoi gwybod i rieni / gwarchodwyr pan fyddwn yn clywed gan yr Urdd.
Diolch i bob un a da iawn i'r disgyblion.