Trefniadau'r Wythnos:
10th November 2016
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw brown.
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Plant y Cyfnod Sylfaen: Mae rhywbeth YN y .....
Disgyblion Cyfnod Allweddol 2: y/yr a/ac (y/a o flaen cytseiniaid / yr/ac o flaen llafariaid.)
Dydd Llun:
Bydd disgyblion blwyddyn 4 (Dosbarthiadau Miss Broad a Miss Griffiths) yn cymryd rhan yn Jambori'r Urdd yng Nghaerdydd heddiw. Bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol a bydd angen pecyn cinio ar bob un os gwelwch yn dda.
Clwb yr Urdd, Pontypwl ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 3-6.
Mae'r clwb yn cael ei redeg yn Neuadd St. Iago, Hanbury Road, Pontypwl rhwng 4:30 a 6 bob nos Lun am £1 y sesiwn.
Bydd dinosor ym ymweld â'r neuadd heddiw. Mae plant blwyddyn 2 wedi dechrau dysgu am ddinosoriaid felly bydd cwmni yn cynnal gweithdy gyda phob dosbarth er mwyn iddynt ddysgu mwy am ddinosoriaid a'u bywydau.
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr wythnos.
09:10 yn neuadd yr ysgol.
Clwb coginio i flwyddyn 2 dosbarth Mrs Dalgleish rhwng 3:30 a 4:30. (£1)
*Roedd clwb coginio olaf dosbarth Miss Hughes wythnos diwethaf.*
Ymarfer côr o 3:30 - 4:30.
Dydd Mercher:
Bydd côr yr ysgol yn teithio i Lundain heddiw i gymryd rhan mewn cyngerdd arbennig yn y Royal Albert Hall, gyda Gwent Music. Bydd y disgyblion yn treulio'r dydd yno ac maent yn gobeithio gadael Llundain tua 10 o'r gloch yn y nos. Bydd yr athrawon yn cysylltu gyda rhieni / gwarchodwyr ar y ffordd adref.
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol.
09:30-11:30.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Does dim Clwb Ysgrifennu Creadigol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 gan fod Clwb yr Urdd ar eu cyfer yr wythnos hon.
Dydd Iau:
Gala Nofio'r Urdd ym Mhontypwl rhwng 09:00 a 1:30.
(Mae'r rhai sy'n cystadlu eisioes wedi derbyn llythyr.)
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Gwener:
Gwers ffidil blwyddyn 2 dosbarth Miss Hughes rhwng 09:10 a 10:10.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Plant Mewn Angen: Byddwn yn codi arian ar gyfer Plant Mewn Angen heddiw. Gall y disgyblion ddod i'r ysgol mewn dillad smotiog neu ddillad eu hunain. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £1 gan bob disgybl.
Bydd Mr Tilling hefyd yn codi arian ar ddiwedd y dydd wrth iddo gael gwared ar ei farf hir iawn. Dewch i'r iard i gefnogi.
Diolch.