TALU AM FFRWYTH

TALU AM FFRWYTH

10th November 2016

Yn anffodus NI FEDRWN DDERBYN arian bob dydd (20c) mwyach neu daliad wythnosol (£1) ar gyfer y ffrwythau.

Rydym yn ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw hi fod y plant yn cael cyfle i gael byrbryd iachus yn ystod egwyl y bore. Gofynnwn yn garedig eich bod yn talu pob hanner tymor fel y nodir isod.

Ar 14eg Tachwedd, gofynnwn am £ 5 i dalu am weddill yr hanner tymor o’r rhieni sy’n dymuno i’w plentyn derbyn darn o ffrwyth yn ddyddiol. Anfonwch ef i'r ysgol mewn amlen wedi'i labelu'n glir.

Bydd arian Ffrwythau yn ddyledus ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Mercher 4ydd o Ionawr, 2017 - £ 6.60
Dydd Llun 27ain o Chwefror, 2017 - £ 6.00
Dydd Llun 24ain o Ebrill, 2017 - £ 5.00
Dydd Llun 5ed o Fehefin, 2017 - £ 7.00

Wrth gwrs mae yna groeso i chi ddarparu darn o ffrwyth ar gyfer eich plentyn yn ddyddiol.

Diolch am eich cydweithrediad.


^yn ôl i'r brif restr