Trefniadau'r Wythnos:
4th November 2016
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw pinc.
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Plant y Cyfnod Sylfaen: Enwau anifeiliaid - gan ganolbwyntio ar y lluosog e.e. ci - cŵn.
Disgyblion Cyfnod Allweddol 2: Y gwahaniaeth rhwng 'pan' a 'pryd'.
Dydd Llun:
Clwb yr Urdd, Pontypwl ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 3-6.
Mae'r clwb yn cael ei redeg yn Neuadd St. Iago, Hanbury Road, Pontypwl rhwng 4:30 a 6 bob nos Lun am £1 y sesiwn.
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr wythnos.
09:10 yn neuadd yr ysgol.
Taith dosbarth Miss Griffiths i Amgueddfa Pontypwl.
(Bydd y disgyblion yn ôl yn yr ysgol erbyn amser cinio. Gwisg ysgol.)
Clwb coginio i flwyddyn 2 dosbarth Miss Hughes rhwng 3:30 a 4:30. (£1)
Ymarfer côr o 3:30 - 4:30.
Cyfarfod i rieni / gwarchodwyr disgyblion blwyddyn 6 yn Ysgol Gyfun Gwynllyw.
(Cyfarfod anffurfiol am 4 o'r gloch / Cyfarfod ffurfiol am 6.)
Dydd Mercher:
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol.
09:30-11:30.
Bydd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn gwylio drama yn seiliedig ar y Blits heddiw.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Clwb Ysgrifennu Creadigol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Hyfforddi Pêl-droed ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 Miss Faulknall gyda Chlwb Casnewydd.
Dydd Iau:
Taith dosbarth Miss Williams i Amgueddfa Pontypwl.
(Bydd y disgyblion yn ôl yn yr ysgol erbyn amser cinio. Gwisg ysgol.)
Ymarfer i gôr Llundain yn y Riverfront.
(10:30 - 2:30. Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion os gwelwch yn dda.)
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Gwener:
Bore Coffi ar gyfer rhieni / gwarchodwyr y feithrin a'r derbyn.
Rhieni / Gwarchodwyr y Feithrin: 09:15 - 10:15
Rhieni / Gwarchodwyr y Derbyn: 10:30 - 11:30.
Gwers ffidil blwyddyn 2 dosbarth Miss Hughes rhwng 09:10 a 10:10.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Cystadleuaeth Rygbi ym Mlaenafon.
(Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr. Bydd angen pecyn cinio a dillad addas ar y disgyblion so gwelwch yn dda.)
Diolch.