Trefniadau'r Wythnos:
21st October 2016
Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos ar ôl hanner tymor yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Llun, Hydref 31ain. 
 Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw porffor. 
 Patrwm Iaith yr Wythnos:
 Plant y Cyfnod Sylfaen: Dyddiau'r wythnos. 
 Disgyblion Cyfnod Allweddol 2: Faint o'r gloch yw hi?
 Dydd Llun:
 Clwb yr Urdd, Pontypwl ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 3-6.
 Mae'r clwb yn cael ei redeg yn Neuadd St. Iago, Hanbury Road, Pontypwl rhwng 4:30 a 6 bob nos Lun am £1 y sesiwn.
 Dydd Mawrth:
 Bydd aelodau o'r cyngor yn cynnal cyfarfod yn Neuadd y Sir, Pontypwl heddiw. 
Bydd PC Thomas yn siarad gyda disgyblion blynyddoedd 4-6 am beryglon noson tân gwyllt. 
 Gem rygbi ar ôl ysgol yn erbyn Ysgol Gynradd Henllys.
 Bydd angen casglu'r disgyblion o Ysgol Henllys am 4:30 os gwelwch yn dda. 
 (Mae'r disgyblion sy'n mynd wedi derbyn llythyr.)
 Clwb coginio i flwyddyn 2 dosbarth Miss Hughes rhwng 3:30 a 4:30. (£1)
 Ymarfer côr o 3:30 - 4:30.
 Dydd Mercher:
 Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol.
 09:30-11:30. 
 Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
 Dim Clwb Ysgrifennu Creadigol gan fod Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
 Bydd gwyddonwr sydd wedi bod i Begwn y De a Phegwn y Gogledd yn dod i siarad gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 2 am 1:30 heddiw. 
 Dydd Iau:
 Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.
 Clwb ffitrwydd gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
 Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30. 
 C.Rh.A: Bydd Cyfarfod Blynyddol y G.Rh.A yn llyfrgell yr ysgol am 3:30.
 Croeso cynnes i bawb. 
 Dydd Gwener:
Gall disgyblion dosbarth Mr Bridson wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Hydref. Da iawn i chi gyd. 
 Gwers ffidil blwyddyn 2 dosbarth Miss Hughes rhwng 09:10 a 10:10.
 Gwers hoci blwyddyn 6. 
 Diolch.
