Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

30th September 2016

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw gwyrdd.

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Plant y Cyfnod Sylfaen: Wyt ti'n hoffi ....? Ydw / Nac ydw.
Disgyblion Cyfnod Allweddol 2: Mae'n ddrwg gyda fi.

** Bydd clybiau ar ôl ysgol yn dechrau'r wythnos hon ar wahân i glybiau nos Fawrth gan fod Hyfforddiant gyda'r staff. **

Dydd Llun:
Clwb yr Urdd, Pontypwl ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 3-6.
Mae'r clwb yn cael ei redeg yn Neuadd St. Iago, Hanbury Road, Pontypwl rhwng 4:30 a 6 bob nos Lun am £1 y sesiwn.

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos - neuadd yr ysgol am 09:10.

Bydd Miss James a Miss Rogers o Wynllyw yn dod i siarad gyda disgyblion blwyddyn 6 heddiw.

Dim clybiau ar ol ysgol heno gan fod Hyfforddiant i'r athrawon.
Bydd Clwb Plant y Tri Arth yn rhedeg fel arfer.

Dydd Mercher:

Lluniau unigol:
Bydd Colorfoto mewn yn cymeryd lluniau unigol (a theulu) drwy'r dydd heddiw.
Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod y disgyblion yn gwisgo'r wisg ysgol gywir.

Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol.
09:30-11:30.

Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Clwb Ysgrifennu Creadigol ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.

Trip dosbarth Miss Westphal i amgueddfa Pontypwl. (£6)

Bydd gweithdai creadigol Ffa La La yn cael eu cynnal yn yr ysgol heddiw ar gyfer dosbarthiadau'r Cyfnod Sylfaen.

Clwb ffitrwydd gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Gwener:

Gall blant dosbarthiadau Miss Hughes a Mrs Dalgleish wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Medi.
Da iawn i bawb.

Gwers ffidil blwyddyn 2 dosbarth Miss Hughes rhwng 09:10 a 10:10.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn mynd i Langrannog am y penwythnos.
Byddwn yn gadael yr ysgol am 1 o'r gloch.
Gall y disgyblion wisgo dillad eu hunain i'r ysgol.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr