Patrwm Iaith yr Wythnos:

23rd September 2016
Mae'r Tîm Llythrennedd wedi bod yn brysur yn llunio rhestr o batrymau iaith i'w defnyddio yn yr ysgol yn wythnosol.
Y gobaith yw y bydd y disgyblion yn dysgu ac yn defnyddio patrymau iaith cywir er mwyn gwella safon eu hiaith lafar.
Mae'r tîm wedi gosod un patrwm iaith ar gyfer y Cyfnod Sylfaen ac un ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 bob wythnos. Bydd y disgyblion yn derbyn tocynnau iaith os ydynt yn dweud y patrymau hyn yn gywir a bydd y tocynnau yn cyfri tuag at bwyntiau llys bob wythnos.
Patrwm Iaith yr Wythnos ar gyfer yr wythnos nesaf yw:
Y Cyfnod Sylfaen: Bore da / Prynhawn da
Cyfnod Allweddol 2: Oes .... gyda ti? Oes / Nac oes
Diolch.