Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

22nd September 2016

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw oren.

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Plant y Cyfnod Sylfaen: Bore da / Prynhawn da
Disgyblion Cyfnod Allweddol 2: Oes .... gyda ti? Oes / Nac oes

Dydd Llun:
Llangrannog blynyddoedd 5 a 6: Gofynnwn yn garedig am ffurflenni meddygol Llangrannog i gael eu dychwelyd erbyn heddiw os gwelwch yn dda.

Noson rieni.

Clwb yr Urdd, Pontypwl ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 3-6.
Mae'r clwb yn cael ei redeg yn Neuadd St. Iago, Hanbury Road, Pontypwl rhwng 4:30 a 6 bob nos Lun am £1 y sesiwn.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion o Ysgol Gymraeg Cwmbrân i gymysgu gyda disgyblion o ysgolion Cymraeg eraill yr ardal.
(Does dim rhaid i'r disgyblion fod yn aelodau o'r Urdd i fynychu'r clwb hwn.)
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Helen Greenwood ar 01495 350155.

Dydd Mawrth:
Noson rieni.

Dydd Mercher:
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol.
09:30-11:30.

Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.

Bydd gweithdai creadigol Ffa La La yn cael eu cynnal yn yr ysgol heddiw ar gyfer dosbarthiadau'r Cyfnod Sylfaen.

Dydd Gwener:
Bore Coffi Macmillan.
Mae bob dosbarth wedi derbyn amser gwahanol ar gyfer y bore coffi.

Stondin Gacennau P.T.A ar ôl ysgol.
3:30 ar iard yr adran iau.
Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniadau ar y diwrnod.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Diolch.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr