Trefniadau'r Wythnos:

16th September 2016
Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw glas.
Dydd Llun:
* Gofynnwn yn garedig am yr holl ffurflenni gwybodaeth disgyblion yn ol erbyn heddiw os nad ydynt wedi eu dychwelyd yn barod. Mae'n hanfodol bod gennym ni'r wybodaeth ddiweddaraf am bob un o'n disgyblion ar ein system. *
Clwb yr Urdd, Pontypwl ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 3-6.
Mae'r clwb yn cael ei redeg yn Neuadd St. Iago, Hanbury Road, Pontypwl rhwng 4:30 a 6 bob nos Lun am £1 y sesiwn.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion o Ysgol Gymraeg Cwmbrân i gymysgu gyda disgyblion o ysgolion Cymraeg eraill yr ardal.
(Does dim rhaid i'r disgyblion fod yn aelodau o'r Urdd i fynychu'r clwb hwn.)
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Helen Greenwood ar 01495 350155.
Dydd Mawrth:
Cyngerdd Ffliwt:
Bydd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn derbyn perfformiad gan yr athrawes ffliwt prynhawn 'ma.
Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.
Bydd angen dillad nofio a thywel ar y disgyblion ar y diwrnod hwn.
Byddant yn mynd i nofio yn ystod y sesiwn gyntaf.
Bydd gweithdai creadigol Ffa La La yn cael eu cynnal yn yr ysgol heddiw ar gyfer dosbarthiadau'r Cyfnod Sylfaen.
Dydd Gwener:
Gwers hoci blwyddyn 6.
Nodyn Atgoffa:
Llangrannog ar gyfer blynyddoedd 5 a 6:
Gofynnwn yn garedig am weddill yr arian erbyn dydd Llun, Hydref 3ydd os gwelwch yn dda. Cost y daith yw £146. Byddwn yn derbyn mwy o wybodaeth am amseroedd ayyb yn ystod yr wythnosau nesaf.
APP SCHOOP: (10319)
Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau eich bod chi wedi newid gosodiadau SCHOOP ar eich ffon er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf gan athro / athrawes eich plentyn.
Gwisg ysgol:
Gofynnwyn yn garedig i chi sicrhau bod dillad ac eitemau personol eich plentyn wedi'i labeli'n glir gydag enw eich plentyn.
Diolch.