Diwrnod o Hwyl Blwyddyn 3 / Criced Blwyddyn 4:

Diwrnod o Hwyl Blwyddyn 3 / Criced Blwyddyn 4:

25th June 2013

Gan fod diwrnod o hwyl yr Urdd a’r criced wedi eu gohirio yr wythnos ddiwethaf fe fydd y digwyddiad nawr yn cael ei gynnal ddydd Iau yma, sef y 27ain o Fehefin yn Nhrecelyn.

Yn ystod y dydd, bydd y plant yn cael cyfle i fwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon. Byddwn yn gadael yr ysgol am 9.30 ac yn dychwelyd i’r ysgol erbyn 4.45yh. A wnewch chi sicrhau bod eich plentyn yn cael ei gasglu ar amser os gwelwch yn dda.

Ni fydd ymarfer côr ar y dyddiad hwn.

Bydd angen pecyn bwyd a dillad ymarfer corff ar eich plentyn. Cofiwch hefyd y bydd angen digon o ddŵr ac eli haul.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr