Llythyr Diwedd Blwyddyn:

Llythyr Diwedd Blwyddyn:

4th July 2014

Digwyddiadau 2013-2014:

Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un brysur iawn yma yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

C.Rh.A yr ysgol:

Diolch yn fawr iawn i Gymdeithas Rieni yr ysgol am yr holl waith eto eleni. Mae’r Gymdeithas wedi gweithio’n galed iawn yn trefnu Ffair Nadolig, Ffair Haf, disgos ar ôl ysgol, stondin gacennau, trefnu te mewn nosweithiau agored a’r mabolgampau a gwerthu hufen iâ ar ôl ysgol bob nos Wener. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am yr holl waith caled maent wedi ei wneud dros yr ysgol. Eleni, mae’r arian wedi mynd tuag at brynu pedwar gliniadur newydd i’r ysgol, tuag at barti diwedd blwyddyn disgyblion blwyddyn 6, anrhegion i’r disgyblion amser y Nadolig ac maent wedi rhoi £700 tuag at dripiau diwedd blwyddyn. Diolch yn fawr iawn i bawb.

Bydd y Gymdeithas yn trefnu mwy o weithgareddau flwyddyn nesaf, gan gynnwys marathon darllen.

Arian Ffair Scholastic:

Bob blwyddyn, mae Miss Phillips yn trefnu ffair lyfrau Scholastic yn yr ysgol. Eleni, gwnaed elw o £600 ac rydym wedi archebu 100 o eiriaduron newydd ar gyfer mis Medi. Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth a diolch yn fawr iawn i Miss Phillips am drefnu’r ffair eto eleni.

Aelodau o staff newydd:

Yn anffodus, rydym yn ffarwelio gyda sawl aelod o staff eleni. Mae Miss Manon Jones (Mrs Owen bellach) yn ein gadael i deithio’r byd am flwyddyn, cyn symud yn ôl i fyw yn y Gogledd. Mae Mrs Bethan Long yn ein gadael ar ôl sawl blwyddyn i weithio mewn ysgol yng Nghaerdydd. Mae Miss Lucy Norman a Miss Toni-Leigh Harris wedi cael swyddi newydd yn Ysgol Gyfun Gwynllyw. Dymunwn pob llwyddiant i bob un ohonyn nhw ac rydym am weld eu heisiau yn fawr.

Edrychwn ymlaen at groesawu aelodau newydd o staff i’n plith sef Miss Catrin Osborne, Miss Gemma Burford, (Mrs Gemma Spansiwck ym mis Medi), Mr Nathan Bridson, Miss Jade Godwin a Miss Jessica Davies. Edrychwn ymlaen at groesawu Miss Nerys Griffiths yn ôl i’r ysgol ar ôl ei chyfnod mamolaeth.

Digwyddiadau’r Flwyddyn:
Trefnwyd nifer fawr o bethau i’r disgyblion eleni. Rydym yn falch iawn o allu cynnig nifer fawr o gyfleoedd i’r disgyblion, yn y dosbarth a thu allan i’r dosbarth. Mae gweithgareddau allgyrsiol yn bwysig iawn ac mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau hyn yn cael eu gwneud yn wirfoddol gan aelodau o staff. Rydym yn ddiolchgar iawn i bob un ohonynt am roi eu hamser eu hunain. Rhai o’r gweithgareddau sydd wedi cael eu trefnu eleni yw wythnosau gwerthoedd y galon, wythnos hybu iechyd, clybiau gwahanol megis clwb coginio, gwnïo, chwaraeon, côr, yr Urdd a beicio, diwrnod ‘Pan rydw i’n hŷn, hoffwn fod yn ....., taith i’r Eisteddfod yn y Bala, taith i Langrannog, Diwrnod y Llyfr, Diwrnod Masnach Deg, Diwrnod E-ddiogelwch, cystadlaethau chwaraeon, gweithgareddau’r Urdd, mabolgampau, sioe gerdd Oliver, y côr yn canu yn John Lewis, gala nofio’r Urdd, gweithdy Lego, gweithdy adeiladu bocsys adar, i enwi ychydig yn unig.

Rydym hefyd wedi cael ffens newydd o gwmpas yr ysgol, sydd wedi ein galluogi i gael iard mwy i’r disgyblion. Mae S4C wedi bod mewn i ffilmio’r disgyblion ddwy waith eleni; unwaith ar gyfer CYW ac unwaith ar gyfer Dona Direidi.

Rydym hefyd wedi archebu offer chwaraeon newydd a chit pêl-droed newydd i’r ysgol o ganlyniad i’r pêl-droed noddedig yn yr wythnos hybu iechyd. Diolch yn fawr iawn i Miss Jones a Mr Passmore am eu gwaith gyda’r wythnos hon a’r gweithgareddau chwaraeon i gyd.

Blwyddyn Newydd:

Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at groesawu pawb yn ôl ym mis Medi. Mae’n amser cyffrous iawn i’r ysgol gan ein bod yn tyfu ac yn croesawu mwy o blant mewn i’r derbyn. Dymunwn pob lwc i ddisgyblion blwyddyn 6 sy’n dechrau ar gam nesaf eu taith yn Ysgol Gyfun Gwynllyw. Maent yn griw hyfryd o blant a byddwn yn gweld eu heisiau yn fawr.

Diolch i chi eto am bob cefnogaeth dros y flwyddyn. Croesawn y disgyblion yn ôl i’r ysgol ar ddydd Mawrth Medi’r 2il.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr