Taith Llangrannog, Tachwedd 2014:

Taith Llangrannog, Tachwedd 2014:

8th July 2014

Bydd llythyr am Langrannog yn mynd adref gyda'r disgyblion heno.

Bob blwyddyn, mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn cael cyfle i fynd i Langrannog am benwythnos. Eleni, byddwn yn mynd, ynghyd ag ysgolion Cymraeg eraill yr ardal, ar ddydd Gwener, Tachwedd 14eg a byddwn yn dychwelyd ar ddydd Sul, Tachwedd 16eg.

Cost y daith eleni fydd £135. Yn y pris, bydd y disgyblion yn cael eu prydau bwyd i gyd, costau teithio, aelodaeth yr Urdd am flwyddyn, gweithgareddau megis sgïo, merlota, gwibgartio, dringo, nofio ayyb a llety am y ddwy noson.

Byddwn yn gofyn am flaendal o £30 yn gynnar ym mis Medi a bydd gweddill yr arian yn gorfod cael ei dalu wythnos cyn y daith.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Miss Passmore.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr

Cyhoeddiadau 2013/14