Taith Diwedd Blwyddyn Blynyddoedd 5 a 6:

Taith Diwedd Blwyddyn Blynyddoedd 5 a 6:

4th July 2014

Yn anffodus, rydym wedi cael gwybod nad yw’r Pwll Nofio Rhyngwladol ar gael ar gyfer ein taith diwedd blwyddyn.

Mae gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar y pwll ac, yn anffodus, mae’r gwaith yn mynd ymlaen yn hirach na’r disgwyl. O ganlyniad, rydym wedi trefnu mynd i’r sinema ym Mae Caerdydd i weld ‘How to Drain a Dragon 2’. Byddwn yn mynd i’r sinema yn y bore ac i sglefrio iâ yn y prynhawn. Ni fydd cost ychwanegol i chi.

Os nad ydych chi wedi talu am y daith eto, gofynnwn yn garedig i chi wneud hyn cyn i ni fynd dydd Mercher nesaf. (£10)

Bydd angen i’r disgyblion wisgo gwisg ysgol, gyda throwsus ar gyfer y sglefrio iâ. Bydd angen pecyn cinio a digon o ddŵr ar eich plentyn yn ogystal.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr