Cais am lyfrau darllen:

Cais am lyfrau darllen:

26th April 2013

Os oes gyda chi unrhyw lyfrau sbâr (Cymraeg neu Saesneg) yn eich cartrefi neu unrhyw hen lyfrau nad ydych yn eu defnyddio bellach, byddwn yn gwerthfawrogi yn fawr eu cael yn yr ysgol i’w hychwanegu at gorneli darllen y dosbarthiadau gwahanol.

Bob wythnos, mae llyfrau yn cael eu danfon adref gyda’r disgyblion a, dros y blynyddoedd, mae nifer o’r llyfrau hyn wedi diflannu. O ganlyniad, mae ein corneli darllen yn edrych ychydig yn wag ac mae llai o ddewis o lyfrau ar gael i’r disgyblion.

Yn ogystal â hyn, os oes unrhyw lyfrau gyda chi sy’n berchen i’r ysgol, gofynnwn yn garedig i chi eu dychwelyd cyn gynted ag y bo modd.


^yn ôl i'r brif restr