Taith Blynyddoedd 5 a 6 i Techniquest:

Taith Blynyddoedd 5 a 6 i Techniquest:

20th February 2013

Bydd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn mynd i Techniquest ar ddydd Llun, Mawrth 4ydd.

Ar ddydd Llun, Mawrth 4ydd, rydym wedi trefnu trip i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 i Techniquest yng Nghaerdydd. Byddwn yn gadael yr ysgol am 9:15 a byddwn yn cyrraedd yn ôl erbyn diwedd y dydd.

Bydd y disgyblion yn ymgymryd mewn gweithdy mathemateg a byddant yn cael cyfle i edrych o gwmpas Techniquest i wneud y gweithgareddau gwyddoniaeth. Pris y trip yw £4 felly gofynnwn eich bod yn danfon yr arian a’r slip isod yn ôl i ni yn yr ysgol cyn dydd Gwener, 1af o Fawrth. (Bydd llythyr yn mynd adref heno gyda'r disgyblion.)

Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion ar y diwrnod a bydd rhaid i ddisgyblion sy’n dioddef o asthma ddod â phwmp asthma gyda nhw.

Mae Techniquest yn awyddus i gymryd lluniau o’r disgyblion i fynd ar y wefan/mewn pamffledi felly, os ydych yn hapus i hwn ddigwydd, gofynnwn i chi ddychwelyd y ffurflen ganiatâd yn ogystal.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr