Trefniadau'r Wythnos:

26th November 2012
Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
Dydd Llun:
Bydd Miss Helen Rogers a Miss Rhian James yn dod i siarad gyda disgyblion blwyddyn 6 am Ysgol Gyfun Gwynllyw bore 'ma.
Sesiwn rygbi ar ôl ysgol.
Clwb TGCh i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2.
(12:30-1)
Hoci ar ol ysgol yn y Ffatri Bel-droed
o 4 tan 5.
(Gofynnwn yn garedig i chi gasglu eich plentyn o'r Ffatri Bel-droed am 5 o'r gloch.)
Dydd Mawrth:
Clwb LEGO ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.
(12:30-1)
Clybiau ar ôl ysgol:
Pel-rwyd yn yr ysgol tan 4:30.
Pel-droed yn y Ffatri Bel-droed. (4-5)
Dydd Mercher:
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Clwb Gwnio ar ôl ysgol.
(Plant blwyddyn 2 tan 4:30)
Ymarfer rygbi ar ôl ysgol tan 4:30 gyda Mr Passmore.
Dim ymarferion côr ar ôl ysgol.
Dydd Iau:
Cystadleuaeth rygbi a phel-rwyd yr Urdd yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. (10-3)
Os ydy'r gystadleuaeth wedi'i gohirio, byddwn yn rhoi gwybod i chi ddydd Mercher.
Clwb darllen ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.
(12:30-1)
Ymarfer côr ar ôl ysgol tan 5.
Dydd Gwener:
Diwrnod yr Ail Ryfel Byd - Plant Cyfnod Allweddol 2.
Gall y disgyblion wisgo fel plant yn yr Ail Ryfel Byd os ydynt yn dymuno.
Diolch.