Ras 3 milltir Hosbis Dewi Sant:

Ras 3 milltir Hosbis Dewi Sant:

20th November 2012

Fel rydych yn gwybod, ein helusen ar gyfer eleni yw Hosbis Dewi Sant yma yng Nghwmbrân. Ar ddydd Sadwrn, yr 8fed o Ragfyr, mae’r elusen yn cynnal ras hwyl tair milltir yng Nghwmbrân.

Mae deuddeg aelod o staff wedi penderfynu cymryd rhan yn y ras ac rydym yn awyddus i gael rhai o’r disgyblion, neu chi fel rhieni / gwarchodwyr, i redeg y ras gyda ni.

Bydd hwn yn gyfle hyfryd i ni godi arian i’r elusen trwy gadw’n heini ar yr un pryd. Ceir tair ras wahanol, sy’n addas ar gyfer pob oedran a phob lefel o ffitrwydd yn ôl y wefan. Isod, ceir gwybodaeth am y ras fel sy’n cael ei nodi ar y wefan.

Os ydych chi a/neu eich plentyn â diddordeb mewn cymryd rhan yn y ras, cysylltwch gyda fi (Miss Passmore) yn yr ysgol ac fe ddanfonaf i ffurflen gofrestru yn ôl atoch chi. Mae’r elusen yn gofyn am leiafswm o £5 ar gyfer cofrestru yn y ras. Ni fyddwn yn gallu bod yn gyfrifol am y disgyblion ar y bore hwn ac felly, gofynnwn yn garedig eich bod chi yno hefyd i edrych ar eu holau ac i gefnogi’r achos.

Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar y wefan isod.

Manylion am y ras fel sy'n ymddangos ar y wefan:

Scooter Run – Start time: 10:00am Free for all ages
The Scooter Run will follow the river path from the car park, to Llanyrafon and back – No minimum age although we would ask that all children under 11yrs are accompanied by an adult.
Helmets must be worn.

Santa Run – Start time: 10:30am
A popular feature every year – hundreds dress up and come along to take part. Run, Jog, or Walk – but above all enjoy the atmosphere.
To enter we are requesting a £5 minimum suggested donation for all ages
The route is approximately 5km, and is suitable for all ages and all levels of fitness – just do it at your own pace.

Santa Bike Ride – Start time: 11:00am
New for 2012 – The Santa Bike Ride will be up and down the river pathways; you may decide how many laps you would like to do.
Part of the course will be across some grass so not suitable for road bikes.

To enter we are requesting a £5 minimum suggested donation for all ages
Stop along the route and enjoy some mince pies and hot chocolate!

This is a festive, fun event – not a race (helmets must be worn but can be decorated). Minimum age to take part is 11 on day of event and all children under 16 must be accompanied by an adult.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr