Diwrnod yr Ail Ryfel Byd:

Diwrnod yr Ail Ryfel Byd:

12th November 2012

Bydd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn mwynhau diwrnod yn yr Ail Ryfel Byd ar ddydd Gwener, y 30ain o Dachwedd.

Ar ddydd Gwener, 30ain o Dachwedd, byddwn yn cynnal diwrnod o weithgareddau
wedi’u selio ar thema’r tymor, yr Ail Ryfel Byd. Bydd yn gyfle i’r disgyblion ddysgu trwy
fwynhau gwahanol weithgareddau. Byddwn yn dysgu mwy am y cyfnod hwn mewn amser, am y Blits, am y plant yn ystod y cyfnod, am gysgodion Anderson ayyb. Byddwn hefyd yn edrych ar effaith yr Ail Ryfel Byd ar Gymru.

Os ydych chi’n adnabod unrhyw un byddai’n hapus i ddod mewn i siarad gyda dosbarth neu ddau am yr Ail Ryfel Byd ar y diwrnod hwn, cysylltwch gyda Miss Passmore yn yr ysgol.

Gall y disgyblion wisgo fel plentyn o’r Ail Ryfel Byd ar y diwrnod.

Edrychwn ymlaen yn fawr at y diwrnod.


^yn ôl i'r brif restr